Covid-19: pam mae Prydain mor drychinebus?

May 8, 2020 0 Comments

Erbyn hyn mae’n amlwg fod Prydain yn dioddef o’r pla yn waeth nag unrhyw wlad yn Ewrop.  Amlwg hefyd mai esgeulustod llywodraeth y DU yw un o’r prif resymau.  Ei methiant i ymateb i’r firws yn brydlon.  Ei methiant i ddarparu offer ar gyfer unedau triniaeth ddwys, a dillad i warchod pawb oedd mewn cyswllt â’r firws.  Ei methiant i brofi pobl a allai gario’r firws.  Ei methiant i warchod trigolion a staff mewn cartrefi gofal.  Ei methiant i gau ffiniau’r wlad a phrofi mewnfudwyr. Ei methiant i gyfathrebu mewn ffordd gyson.

Siŵr o fod bydd ymchwiliad cyhoeddus yn nes ymlaen, i ddarganfod y gwir am y methiannau hyn a dysgu’r gwersi.  Ond mae’n werth gofyn y cwestiwn nawr: beth yw’r rhesymau sylfaenol sy’n esbonio pam bod Boris Johnson a’i griw mor hynod o ddiffygiol?  Pedwar sy’n sefyll allan imi.

1 Bwnglera fel clefyd endemig

Daeth Boris Johnson i 10 Downing Street am ddau reswm: i’r Torïaid fe oedd y dyn poblogaidd, oedd yn gallu ‘cwpla Bregsit’.  Roeddent yn barod i esgeuluso ffaeleddau lu ei gymeriad – y ffaith ei fod yn gelwyddgi, yn dilorni merched a phobl groenddu, ac yn gwbl annibynadwy – cyn belled ei fod yn llwyddiant fel gwleidydd.   Rhywbeth arall roeddent am anwybyddu oedd ei anallu i lywodraethu, hyd yn oed i fod yn rheolwr effeithiol.  Profodd ei gyfnod fel Ysgrifennydd Tramor ei fod yn methu â chyrraedd safonau isaf y swydd.  Y gwir yw ei fod yn trin llywodraethu fel gêm: fel dadl yn yr ‘Oxford Union’ neu swper dinistriol yn y Bullingdon Club.  Clown yw e – ond heb y gallu sy gan glown Shakesperaidd i ddweud y gwir (gw. 4 isod).

Ar ôl dod yn Brif Weinidog gwnaeth Johnson benodiadau i’r Cabinet ar sail dau faen prawf: bod y gweinidogion yn gwbl ffyddlon iddo’n bersonol, a’u bod yn credu mewn un duw: duw Bregsit eithafol.  NId oherwydd eu gallu i arwain eu hadrannau’n effeithiol.  Fel canlyniad, dyma’r cabinet lleiaf galluog ers cyn yr Ail Ryfel Byd, llawn pobl heb y profiad a heb y sgiliau i reoli adran.  Am flynyddoedd – ers amser Gordon Brown, debyg iawn – mae llywodraethau wedi anghofio sut i lywodraethu.  Dim syndod bod Johnson wedi cael codwm, dro ar ôl tro.

2 Dallineb ideolegol

Un o’r rhesymau pam bod Covid-19 ddim ar radar Johnson a’i fêts ym mis Ionawr a mis Chwefror oedd eu bod yn canolbwyntio yn llwyr bryd hynny ar yr unig beth oedd yn cyfrif iddynt: Bregsit.  Wedi llwyddo i wthio Bregsit trwy’r Senedd o’r diwedd, roeddent yn dathlu ac yn edrych ymlaen at gerdded tuag at wlad yr addewid: bod yn rhydd o’r Undeb Ewropeaidd atgas, ac adennill statws teilwng Prydain Fawr fel un o Bwerau Mawr y Byd.

Mae’n hawdd anghofio nawr, ond penderfynodd David Cameron gynnal refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn datrys rhwyg difrifol o fewn ei blaid ei hun.  Byth ers hynny mae ideoleg Bregsit yn taflu popeth arall – argyfwng yr amgylchfyd, gwendid y gwasanaethau cyhoeddus, tlodi, problemau addysg – i’r cysgod.  (Ac i raddau helaeth, mae’n dal i’w wneud: rydym yn rhuthro tuag at adael Ewrop yn derfynol, heb gytundeb, ar 31 Rhagfyr eleni.)

3 Crefydd ffwndamentalaidd awsteriti

Yn syth ar ôl dod i rym yn etholiad cyffredinol 2010 cychwynnodd llywodraeth David Cameron a Nick Clegg ar raglen ideolegol arall, ‘awsteriti’.  Pensaer y rhaglen oedd y Canghellor, George Osborne.  Ef oedd yn gyfrifol am gynllunio awsteriti a’i roi ar waith – a chofiwch fod awsteriti yn dal ar lawn waith ar drothwy argyfwng Covid-19.  Byddai’n deg enwi Osborne fel un o brif garwyr (‘vectors’) Coronavirus, oherwydd effeithiau trychinebus ei bolisi.

Un o’r effeithiau oedd newynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o adnoddau angenrheidiol, fel ei fod yn ei chael hi’n anodd dros ben ymateb ar frys i’r galwadau arno yn sgil y firws.  Daeth y system budd-daliadau’n hunllef i’r rhai oedd yn gorfod dibynnu arni.  Collodd awdurdodau lleol dros draean o’u hincwm, ac o’i herwydd crebachodd gwasanaethau hanfodol – fel iechyd cyhoeddus (sy’n esbonio, i raddau, pam mae codi’r nifer o brofion cymaint o broblem ar hyn o bryd).

Oherwydd awsteriti agorodd y bwlch rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd i fod yn agendor.  Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae Covid-19 wedi taro cymunedau difreintiedig, fel yn y Cymoedd ac Abertawe, ddwywaith yn waeth nag ardaloedd eraill. Mewn cymdeithas decach byddai’r effaith wedi bod yn llai difrifol.

4 Twyll a diffyg ymddiriedaeth

Sioc yw clywed bod gwleidyddion mewn gwledydd eraill yn cael eu parchu a chael eu trystio gan eu pobl mewn argyfwng.  Mae sawl un wedi sylwi ar sut mae Jacinda Ardern, prif weinidog Seland Newydd, wedi arwain ei gwlad yn ddeheuig ac yn llwyddiannus trwy Covid-19.  Mae ganddi ddwy nodwedd sy’n hollol absennol yn ein prif weinidog ni.  Mae hi’n gwybod sut i gynllunio’n strategol, sut i arwain pobl eraill, a sut i gyfathrebu ei negeseuon.  Ond hefyd mae ganddi ‘integriti’.  Mae pawb yn gwybod na fydd hi’n palu celwyddau.  Fydd hi ddim yn rhoi ‘spin’ ar newyddion drwg.  Ac mae ganddi’r capasiti reddfol i gydymdeimlo â phawb sy’n dioddef, yn hytrach na ffugio emosiwn.

Yn y DU, i’r gwrthwyneb, rydym mor gyfarwydd â thwyll Johnson, Gove, Raab, Hancock a’u tebyg fel ein bod ni wedi colli pob ffydd yn eu geiriau.  Pan ddywedodd Johnson, yn ei araith yn cyhoeddi’r ‘cyfnod caethiwo’, ‘I must level with you’, ein hymateb greddfol oedd ‘am y tro cyntaf yn eich bywyd, Boris’.  Pan ddywedodd Matt Hancock ei fod e wedi llwyddo cyrraedd y targed o 10,000 o brofion y dydd, ein hymateb oedd peidio â’i gredu – fel mae’n digwydd, gyda rheswm da.  Mae effaith y diffyg onestrwydd hwn yn andwyol: mae’n erydu pob ffydd fod y llywodraeth a ni yn yr un cwch, yn yr un argyfwng.

Enghraifft o’r broblem hon yw’r ‘ap’ newydd sy’n ceisio tracio a chyhoeddi achosion o’r firws.  Cododd amheuon amdano ar unwaith.   Yn gyntaf, o achos bod y llywodraeth wedi rhoi’r contract i gynhyrchu’r ap, heb dendr, i gwmni sy’n berthyn i un o gyfeillion Dominic Cummings, meistr y celfyddyd tywyll.  Ac yn ail oherwydd bod dim sicrwydd ’da ni na fydd y llywodraeth yn camddefnyddio ein data ffôn yn ystod neu ar ôl yr argyfwng.

***

Tri pheth sy’n glir am Covid-19 a llywodraethau.  Yn gyntaf, mae ansawdd a natur arweinwyr unrhyw wlad – eu heffeithiolrwydd, eu hideoleg, eu perthynas â’u pobl – yn cael effaith sylweddol ar ba mor ddifrifol fydd effaith y clefyd.  Yn ail, rydyn ni yn y DU wedi dioddef yn arw oherwydd ffaeleddau Johnson a’i griw – ac yn ôl pob tebyg, byddwn ni’n dal i ddioddef yn y cyfnod nesaf o Covid-19.  Ac yn drydydd, mae lle i gredu, os edrychwn ni ar Seland Newydd, y gallai pethau fod yn wahanol.  Rhywbryd yn y dyfodol, o bosib, gallwn ni ddewis llywodraeth sydd â’r gallu i ymdopi ag argyfwng mawr yn effeithiol, yn onest ac er lles y mwyafrif o’r boblogaeth.

Ôl nodyn ar lywodraeth Cymru. 

Yn ystod yr argyfwng hwn mae llywodraeth y DU wedi ymddwyn fel petai’r llywodraethau yn yr Alban ac yng Nghymru ddim yn bod.  Dyw hi ddim wedi ymgynghori gyda nhw cyn gwneud penderfyniadau.  Dyw cynrychiolwyr o’r ddwy wlad ar y prif bwyllgor Covid, SAGE, ddim yn cael bod yn aelodau llawn ohono.  Yn gyhoeddus, mae’r gwahaniaeth rhwng Prydain a Lloegr wedi’i golli. Felly, i bob pwrpas, mae llywodraethau yn yr Alban a Chymru wedi cael ei ysbaddu.  Maen nhw’n ei chael hi’n anodd cymryd penderfyniadau drostyn nhw eu hunain.  Mae hyn oll yn argoeli’n ddrwg i’r cyfnod ôl-Covid.

Leave a Reply