Cymraeg ar y mynydd

January 8, 2022 1 Comment
Mynydd Llysiau

Enillydd cyntaf Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt yw Rebecca Thomas, cymrawd ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig ym Mhrifysgol Bangor. Ei maes academaidd yw hanes Cymru yn yr oesoedd canol cynnar, a chawn beth o’i gwybodaeth drwyadl o’r pwnc yn ei hysgrif fuddugol, sy’n dwyn y teitl ‘Cribo’r Dragon’s Back’.  Er yn fyr, mae’r darn hwn yn cyffwrdd ar sawl testun sy’n procio’r meddwl unrhyw un Cymraeg ei iaith sy’n cerdded ar ein mynyddoedd yn rheolaidd.  Cyfraniad cynnil yw e i lenyddiaeth Gymraeg ar gerdded ar ucheldiroedd Cymru.

Ar ffurf taith gerdded ar y Mynyddoedd Duon mae’r ysgrif: Rebecca a’i bartner (dienw) yn cychwyn o faes parcio ar y ffordd rhwng Crucywel a Thalgarth, dringo at dri chopa, Mynydd Llysiau, Waun Fach a Phen y Gadair Fawr, a dychwelyd trwy ddilyn Y Grib lawr i Gastell Dinas a’r brif ffordd. 

Waun Fach

Bron ar unwaith mae rhywun yn nabod y teimladau sy’n llifo trwy gorff y cerddwr, unwaith ichi ddechrau troedio ar dir gwyllt a dringo uwchben iseldiroedd y bywyd beunyddiol, gyda’i rwystredigaethau pitw.  Amser, mae’n ymddangos yn arafu ar unwaith:

Does dim brys yma.  Does dim brys ar y barcud, aderyn hael sy’n llithro mor araf er lles y llun perffaith.  Does dim brys ar y defaid; eu llwybr nhw yw hwn, diolch yn fawr!  Does dim brys ar yr awel, sy’n gwybod yn iawn fod ganddi sawl awr eto i gocsio fy het i’w gafael.  Wrth lwc, er ei bod yn un glyfar, mae modd stopio’r oriawr ar fy ngarddwrn, felly does dim brys arnom ninnau chwaith.  Gallwn gymryd sawl seibiant heb effeithio ar ein ‘stats’.  Nid Olympiaid mohonom.

Nid dyma’r ardal brysuraf o’r Mynyddoedd Duon o bell ffordd, ond daw Rebecca o hyd i gerddwyr eraill, unigolion a grwpiau.  Sut mae eu cyfarch yw’r cwestiwn i’r cerddwr Cymraeg?  Weithiau mae’n ddigon amlwg o’u hacen a’u goslef nad ydynt yn gyd-siaradwyr Cymraeg:

Mae ein ‘helô’ ni yn wahanol, wrth gwrs. ‘O’ nid ‘oh’. A ‘plîs’ nid ‘please’ i’r cynnig o lun. Does neb yn sylwi. Ddim y pâr hŷn â’u cotiau cyfliw, ddim y grŵp o ddisgyblion ysgol colledig sy’n chwilio am wobr Dug Caeredin, ddim yr athletwr sy’n brasgamu i fyny’r mynydd heb chwysu fawr ddim.

Pen y Gadair Fawr

Bydd y sefyllfa hon yn gyfarwydd i lawer o Gymry Cymraeg sy’n cwrdd ag eraill ar y mynyddoedd.  Yr ateb i’ch cyfarchiad ‘bore da!’ fel arfer yw tawelwch neu annealltwriaeth.  Yn bersonol, dwi’n dal i ddweud y geiriau, yn y gobaith y caf i ateb llon yn Gymraeg, a gwên.  Fel arfer does dim, dim ond golwg wag.  Sy’n peri imi fyfyrio ar y ffaith drist bod gan y Cymry Cymraeg, ar y cyfan, fawr o awydd crwydro eu mynyddoedd eu hunain.  Pan o’n yn byw yn blentyn ar odre’r Penwynion (Pennines) byddai cannoedd o bobl o’r swyddi cyfagos, Caerhirfryn ac Efrog, yn heidio i’r rhostir dros y Sul i gerdded neu ddringo, er mwyn dianc am ddiwrnod o’r melinau a’r ffatrïoedd dur.  Am ryw reswm methodd pobl o’r dosbarth gweithiol yng Nghymru fagu’r un arfer.

Er hynny, mae’n bwysig rhywsut ein bod ni’n datgan yn gyhoeddus yr egwyddor bod y mynyddoedd yn perthyn i’r iaith Gymraeg cymaint ag i’r Saesneg.  Yng ngeiriau Rebecca,

Trwy ein hynganiad dewr o lafariaid rydym ni’n chwarae rhan mewn gwrthryfel.  Efallai byddwn ni’n barod i fentro ‘bore da’ tro nesaf.

Y Grib

Mae rhagor o bobl i’w gweld ar y Grib, lle mae’r cerdded yn mynd yn anoddach.  Eto, bydd unrhyw gerddwyr ar fynyddoedd yn nabod y broblem:

Mae’r tir yn donnog, gwair yn troi’n greigiau cyn troi’n wair eto.  I ddechau, does dim llwybr go iawn.  Cawn yn ei le ryw hanner llwybr, ôl traed unigolion – neu ddefaid – trwm eu camau sy’n ceisio denu eraill ar eu holau.  Mae gyda ni gryn brofiad o lwybrau o’r fath: llwybrau sy’n tueddu i ddiflannu o dan eich traed.

Tua diwedd y ffordd i lawr mae Rebecca’n derbyn sylw gan gerddwr arall y dylai hi gymryd mwy o ofal – ydy’r rhybudd hwn yn gam rhy bell, mae hi’n gofyn iddi hi ei hun, yn etiquette y mynydd? – ac mae’r dyn yn ychwanegu sylw pellach: ‘You haven’t woken it have you?  It moves sometimes you know.’  ‘O?’  ‘The Dragon!’

Castell Dinas

Dyma’r sôn cyntaf o fyth newydd (neu hen) sy’n gysylltiedig â’r Grib.  Mae’r ddraig yn cilio am ychydig pan mae’r ddau yn cwrdd, yn annisgwyl, â chwpl o siaradwyr Cymraeg, sy’n arwain at foliant o’r profiad gogoneddus a chyfnewidiol o sefyll ar ben mynydd yng Nghymru:

Does dim byd yn cymharu â gweld golygfa o’r newydd, y persbectif unigryw ar wlad a geir o droelli ar gopa. Mae’r olygfa wastad yn newydd, y persbectif wastad yn unigryw. Dyw’r mynydd byth yn llonydd, byth yn gyfarwydd. Ond does dim byd chwaith yn cymharu â’r teimlad o glywed iaith gynefin mewn cyd-destun annisgwyl. 

Y llecyn olaf i’w weld yw Castell Dinas, ar dop allt serth.  Fel sy’n gyffredin iawn gyda hynafiaethau ar ucheldir Cymru, mae Castell Dinas yn cadw ei gyfrinachau.  Does dim iddo gofnod hanesyddol, ond yn ôl yr archeolegwyr cododd y Normaniaid godi castell yna, ar safle bryngaer o Oes yr Haearn.

The Dragon’s Back

Nôl yn y maes parcio, mae Rebecca yn sylwi, am y tro cyntaf, mai ‘The Dragon’s Back’ yw’r enw ar y dafarn gerllaw.  Cyfeiriad, mae’n amlwg, i’r Grib, ond mae’r perchnogion wedi osgoi enwi’r Grib.  I gadarnhau’r dewis, fel petai, er bod Google yn dychwelyd sawl esiampl o’r ‘Dragon’s Back’, dyw’r Grib ddim yn ymddangos, fel pe na bai e’n bod.  Mae’n ymddangos felly fod hon yn esiampl arall o broses sy’n gyfarwydd iawn erbyn hyn: enwau Cymraeg traddodiadol yn cael eu disodli gan enwau newydd, Saesneg.  Proses sy’n cyflymu cymaint fel bod llawer o Gymry adnabyddus, megis Dai Lloyd AS, Meri Huws a Tudur Owen, yn galw am fesurau i’w atal.

Ond mae’r achos yma yn wahanol.  Mae gan y ddraig, ac yn arbennig y ddraig gwsg, hanes hir ym mytholeg a llenyddiaeth Gymraeg – hanes sy’n mynd nôl i’r nawfed ganrif, gyda Historia Brittonum a’r frwydr rhwng y ddraig goch a’r ddraig wen o dan gastell Gwrtheyrn, brenin y Brythoniaid.  Cymru yw’r ddraig goch, wrth gwrs, arweiydd sy’n aros am yr amser pan fydd yn dihuno a chodi ac ailfeddiannu ynys Prydain.  Estyniad – estyniad anymwybodol o bosib – o’r traddodiad hwn yw’r ‘Dragon’s Back’ newydd yng nghanol y Mynyddoedd Duon.  Ond nid am y tro cyntaf.  Dyw Rebecca ddim yn sôn amdano, ond yn ei gerdd dameidiog ‘The sleeping lord’ mae David Jones yn dychmygu ‘arglwydd’ sy’n cysgu o dan fynyddoedd Cymru, gan gynnwys y Mynyddoedd Duon.

Mewn ffordd graff a chywrain, felly, dengys ‘Cribo’r Dragon’s Back’ sut gall taith gerdded ar fynyddoedd Cymru olygu llawer mwy na rhoi un troed o flaen y llall.  I’r rhai sydd â llygaid clir a meddwl agored mae’n brofiad amlochrog, sy’n tynnu ar archaeoleg a hanes, iaith a llenyddiaeth, hanes naturiol, seicoleg a chymdeithaseg.

Ôl nodyn.  Mynyddoedd Duon yw term Rebecca Thomas ar gyfer y rhan ddwyreiniol o Fannau Brycheiniog. ‘Y Mynydd Du’ yw’r ffurf a geir yn y cyfeirlyfrau.  Ond os felly, sut mae gwahaniaethu rhwng y bryniau hyn a’r ‘Mynydd Du’ (rhan orllewinol y Bannau)?

Comments (1)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Dafydd Williams says:

    Erthygl ddifyr. Yn fy arddegau,roedden ni fel teulu’n byw yn Nhalgarth. Byddwn yn aml yn cerdded o’r pentref heibio Llaneliw, lan Mynydd Das a weithiau mor bell â’r Waun Fach – er ei henw,hi yw’r copa uchaf os cofiaf yn iawn. Mynydd Du Brycheiniog a ddywedwn er mwyn eu diffinio’n wahanol i’w chymdogion mwy adnabyddus dros y ffin yn Shir Gâr. Ychydig o Gymraeg a glywir yn Nhalgarth. Ond mor ddiweddar â dechrau’r ugeinfed ganrif hysbysebwyd am athrofeistr Cymraeg, gan fod yr iaith yn dal yn gryf yn yr ardal – hyn yn ôl hanesydd lleol brwd yn y chwedegau, Jack Pettican.

Leave a Reply