‘Deud llai’: troli Tesco ac un esgid damp

February 7, 2025 2 Comments

deud llai (Barddas, 2024) yw’r trydydd casgliad o gerddi i’w gyhoeddi gan Dafydd John Pritchard.  Roedd yr ail, Lôn fain (2013), dipyn yn llai fel llyfr corfforol na’r cyntaf, Dim ond deud (2006), ac mae’r gyfrol newydd yn llai byth.  Bydd yn ffitio’n i mewn i boced fach eich siaced heb drafferth. 

Yn yr un modd, er 2013 mae Dafydd wedi bod yn hogi ei gyllell farddonol er mwyn torri unrhyw beth yn ei gerddi – iaith flodeuog, metafforau diangen, pregethu a llywio’r darllenydd – sy ddim yn rhan o gnewyllyn hanfodol y gerdd.  Yn ei gyflwyniad mae’n tynnu sylw at ei chwaeth ddiweddar at gerddi’r Americanwr William Carlos Williams, a’i ddywediad ‘no ideas but in things’.  Y model sydd ganddo mewn golwg, debyg iawn, yw’r gerdd adnabyddus hon:

The red wheelbarrow

so much depends
upon

a red wheel
barrow

glazed with rain
water

beside the white
chickens

Cymharwch honno gydag un o’r darnau newydd yn deud llai.  (Mae’n hollol bosib bod Dafydd yn talu teyrnged yma i’r gerdd benodol hon; yn sicr, mewn cerdd arall, ‘diolch’, mae’n efelychu cerdd enwog ‘This is just to say):

troli

mae’n bwysig nodi
fod y troli Tesco

a welais ar
y llwybr troed

yn wag heblaw am
un esgid damp

wedi’i rhwygo
a heb gareiau

Mae hon a cherddi eraill yn y gyfrol yn dangos llawer o nodweddion Williamsaidd: cynildeb yn eu mynegiant, ‘ymatalgarwch’ (gair o’r cyflwyniad) a gwyleidd-dra (dim llythrennau bras trwyddi draw), dulliau ‘dangos nid dweud’, penillion a llinellau byrion, ac iaith blaen, sgyrsiol. 

Wrth ddarllen llawer o’r cerddi, gallwch chi ddychmygu eich bod chi’n clustfeinio ar ran o sgwrs dawel ar y ford gyferbyn, neu’n dal ymson meddyliol ar y stryd.  Dych chi wedi colli dechrau’r sgwrs: yn aml y geiriau agoriadol yw ‘ac yno’, ‘ac ie felly’, ‘ac os ca’i funud fach’, ‘a bwrdd bach wrth y ffenest’.  Ac ar y diwedd, mae’r geiriau yn peidio’r un mor sydyn, gan adael i chi, y darllenydd, wneud beth bynnag y gallwch o’r gerdd.

Rhan arall o’r cywair newydd yn y cerddi hyn yw eu cynefin. Yn y cyfrolau cynt byddai Dafydd yn dilyn ei awen ar draws y bod, ond yma dyn ni’n aros yn agos i’w gartref, yn Aberystwyth – yn amlach na pheidio, mewn caffi, yn syllu ar y coffi o’i flaen ar y ford, neu’n edrych tu fas trwy’r ffenest. (Yn wir, rhaid taw coffi yw awen newydd Dafydd, gan fod y gair yn ymddangos mor aml.)  Digwyddiad bach neu wrthrych dinod ar ei stepen drws yw man cychwyn i sawl cerdd: gwlân wedi’i ddal ar grawiau mewn cae, hen beiriant amaethyddol rhydlyd, dyn mewn sinema sy’n aros tan ddiwedd y ‘credits’, pwll o ddŵr wrth ymyl pafin, arwydd wedi’i gamsillafu (‘ystafell fydd’).  Ac fel ffotograffydd crefftus, mae’n well ’da Dafydd yr oriau cyntaf neu olaf o’r dydd, pryd bydd popeth yn gliriach ac yn fwyaf byw.

bwrdd i un

a bwrdd bach
wrth y ffenest

diolch byth
i setlo’n iawn

rhaid denu’r ferch
a’i chadach

er mwyn dileu yn llwyr
y cylch gwlyb

sy’n staen un soser
ac yn atgof cwpan

ac i chwalu
ac i gasglu

briwsionach yr
un frechdan

a adawyd
ar ei hanner

Ond, diolch byth, dyw William Carlos Williams ddim yn cael ei ffordd bob tro.  Byddai cyfrol gyfan o whilberi, yn goch neu fel arall, yn ormod.  Cwestiynau mawr, fel arfer, sy’n wynebu llawer o’r cerddi: natur amser a byr barhad y byd, colli cyfeillion, bywyd crefyddol.  Cawn gerddi meistrolgar i goffáu ffrindiau a chydweithwyr (Lyn Lewis Dafis, Meilir Llwyd, Pat Donovan), cerddi ecffrastig treiddgar, ‘y forwyn llaeth’ ac ‘y ferch gyda’r clustdlws perl’ (dim syndod darganfod taw Johannes Vermeer yw un o ffefrynnau Dafydd), a cherddi cyhoeddus, gan gynnwys dwy, ar Covid a’r ymosodiad milwrol ar Wcráin, sy’n adleisio ‘September 1, 1939’ gan W.H. Auden.

Creu cyswllt yw cenhadaeth y bardd, a hyd yn oed yn y byrraf a mwyaf ‘gwrthrychol’ o’i gerddi mae Dafydd yn llwyddo yn aml iawn i siglo meddwl a chyrraedd calon ei ddarllenydd.  Fel mae’n digwydd, cysylltu yw thema un o’m hoff gerddi yn deud llai, ‘ailgysylltu’, cerdd Williamsaidd ar y wyneb, sy’n dechrau ar nodyn lleol, beunyddiol ac yn ymagor i gwmpasu’r byd mawr.

ailgysylltu

dyn y ffons
oedd yno

ar ben ystôl
yn ceisio

cysylltu â
Chwilog

nid Chwilog yn
union chwaith

ond rhwla ffor’cw
tua’r gorllewin

lle mae’r môr
bellach

yn merwino’r
tir.

Mae digon yn y llyfr bach hwn i’ch cadw chi’n mynd am fisoedd.  Ond fyddwn ni ddim, gobeithio, yn gorfod aros am dros ddeng mlynedd arall cyn gweld y llyfr nesaf.  A gobeithio hefyd na fydd e’n llai eto o ran maint.  Achos bydd yr holl dorri a thocio yma yn debyg o arwain, ymhen amser, at fudandod.

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Dafydd Pritchard says:

    Diolch o galon, Andrew, am fynd i’r fath drafferth. Rwy’n gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn.

Leave a Reply