Y postmon
Un o’r ychydig swyddi sydd heb newid yn ei hanfod dros y blynyddoedd yw postmon. Mae rhywbeth sylfaenol, anostyngadwy am gerdded o ddrws i ddrws lawr yr heol i ddanfon llythyrau a pharseli i’r trigolion, a thorri gair cyfeillgar â nhw ar y ffordd. Daeth y gair ‘postmon’ yn gyffredin yn yr 1860au, ac ers hynny mae’r postman i’w weld ymhob cornel o Gymru bron bob dydd. Er i’r Post Brenhinol gael ei breifateiddio ddeng mlynedd yn ôl, mae gwasanaeth y postmon yn aros o hyd, i raddau helaeth, yn wasanaeth cyhoeddus, cymunedol.
Ac eto, er bod y postmon – y ‘person post’ erbyn heddiw – yn ffigwr amlwg yn ein cymunedau, ychydig o lenyddiaeth neu eiconograffi sydd i gofnodi ei fywyd a gwaith, heb sôn am ei feddyliau mewnol. Fel pe bai pawb yn ei weld ond neb yn sylwi arno. Unwaith ein bod ni’n ffarwelio â ‘Postman Pat’ a dod i oedran, mae’r postmon yn diflannu o’n hymwybyddiaeth, heblaw am eiliad bob dydd.
Mae’n wir fod y postmon yn cerdded i mewn ac allan mewn cerddi sy’n canolbwyntio ar y newyddion y mae’n ei gario, fel yn ‘Y llythyrgod’ gan Ceiriog:
‘Y postmon sydd yn dyfod,
‘Rwyn nabod sŵn ei droed,
Mi wyddwn y cawn lythyr’,
Medd llances deunaw oed.
‘Cyn myn’d i’m gwely neithiwr,
Wrth wnïo efo ‘mam,
Mi welais yn y canwyll
Fy llythyr yn y fflam.’
Eto, negeseuon y postmon (‘llythyrgludydd’ oedd yr hen enw), yn hytrach na’r dyn ei hun yw canolbwynt englyn John Adams o Abermaw:
Mwynaf neu gasaf negesydd, – o bawb
Yw y llythyr-gludydd
Ar ei rawd cysur a rydd
Neu boen, i ddynion, beunydd.
A dyma Euros Bowen, ganrif yn ddiweddarach, yn ‘Postmona’. Eto, dyw’r postmon ddim yn aros yn hir yn y gerdd:
Bu’r postmon draw acw’n brysur wrthi,
yn union fel pe bai’n adeg y Gwyliau
ar drefnidiaeth yr angau yn y cylch,
yn casglu’r llythryau o’r blychau post
hyd y fro,
casglu’r darnau a adawyd ar wasgar
hyd lecynnau Eryri:
y cynefinedd wrth hen chwarel a llidiart,
llyn wedyn a mawnog,
boncyff a charreg ar y rhos,
a aethai’n briodeleddau’r anian –
y cyfansoddiad hwnnw yn llunweddiadau’r moelni
ac o liw’r mynyddoedd.
Weithiau, wrth gwrs, mae rhywun yn dod ar draws beirdd-postmyn, fel Robert Evans (Cybi) o Langybi (1871-1956) neu Richard Roberts (Richard ap Hugh) o’r Bala (1859-1931). Ond unwaith eto dyn nhw ddim yn tueddu i ganu am bostmona. Er, fel mae’n digwydd, rydyn ni’n ddigon ffodus fod gennym lun byw o Richard Roberts yn rhinwedd ei swydd fel postmon:
Gŵr byr ydoedd o gorff, trwchus o gnawd, a phob amser yn cerdded yn syth fel milwr ac mewn step. Fel llythyrgludydd yr oedd yn ŵr siriol a sicr yn ei waith, a diogel mewn cyfrinach, am nad oed berygl iddo o ei gollwng. Yn herwydd ei waith fel llythyrgludydd bu’n llatai i amryw facwyaid, a hoff fyddai yntau o’u plagio pan gaffai sicrwydd o hynny. Efe, hefyd, am flynyddoedd lawer fu’n cludo’r llythyrau i Bethal a Chefnddwysarn. Elai yn ddyddiol ar gefn ei ferlen – Dans, i’r ddau le a enwyd, a byddai golwg dywysogaidd arno yn cychwyn, bob bore o’r newydd. Ar ei ymdaith i’r lleoedd a enwyd, byddai’n hoff iawn o sylwi ar natur, a thua dechrau a diwedd mis Ebrill disgwyliai yn eiddgar am weled nyth aderyn a chaniad y Gôg. Os digwyddai iddo naill ai gweled nyth neu glywed y Gôg o flaen pawb arall, mawr fyddai ei stŵr a’i firi gan lawenydd wrth fynegi i ni ei ddarganfyddiad …
Pan yn rhannu llythyrau ar hyd y llan, safai weithiau ar gyfer maelfa Robert Thomas i geisio sylw’r merched fyddai’n gwnïo wrth ffenestr lloft y faelfa. Wedi cael eu sylw dangosai lythyr i un arbennig ohonynt, denai honno i lawr i’w ymofyn, a phan ddelsai hi, dichon mai un o’r lleill fyddai perchen y llythyr, os byddai llythyr wedi’r cwbl i un ohonynt.
Hyd y gwn i, does dim hunangofiannau gan bostmyn yng Nghymru. Ond ysgrifennodd Simon Evans, a ddaeth o Dŷn-y-fedw, Sir Drefaldwyn, llyfr diddorol o’r enw Round about the crooked steeple, am ei amser fel postmon yn ardal Cleobury Mortimer, Sir Amwythig yn y cyfnod ar ôl 1926.
Mae gennym hefyd sawl llun o bostmyn gan John Thomas a ffotograffwyr cynnar eraill, a rhagor gan y ffotonewyddiadurwr Geoff Charles, gan gynnwys un enwog o David Lewis Jones yn cludo llythyrau ar gefn ceffyl yn ardal Tregaron yn 1955.
Mae’n bosib chwilio am olion postmyn mewn mannau eraill, megis ar fapiau,. Mae’r postmon wedi gadael ei ôl mewn sawl rhan o Gymru oherwydd y llwybrau fu’n rhan o’i rownd feunyddiol – rhai ohonynt yn ddiarffordd neu anarferol. Ceir ‘Llwybr y Postmon’ yng Nghwm Afan sy’n cysylltu hen ffermydd Afan Argoed, ac mae nifer o esiamplau eraill ar wasgar trwy’r wlad: Llanymawddwy, Dolwar Fach, Niwbwrch, Llanegryn, Dylife a sawl lle arall a nodir ar fap Alan Cleaver, sy wedi arbenigo yn y pwnc.
A sôn am fapiau, un o’r gweithiau creadigol mwyaf gan bostmon yng Nghymru yw’r map o afon Teifi a luniodd Idris Mathias rhwng 1945 a 1962. Ar rolyn papur unigol, 58 droedfedd o hyd, tynnodd Idris gwrs yr afon o Gastellnewydd Emlyn i Fae Ceredigion. Nododd yr enwau lleoedd a nodweddion naturiol, mewn ffordd fanwl a gofalus dros ben, ac ychwanegu lluniau o adar, coed a phryfed mewn lliw yn yr ymylon. Mae’r cyfan fel petai’n emyn godidog i’r ardal y bu Idris yn ei drampio bob dydd am flynyddoedd maith fel postmon.
Ar y cyfan deuai postmyn i sylw’r cyfryngau dim ond os gwnaethon nhw rywbeth anarferol, neu os roedd rhywbeth anghyffredin yn eu gwaith. Daeth postmon o Fôn, R.G. Rees, i’r amlwg achos mai e oedd yn gwasanaethu goleudy Ynys Lawd yn yr 1930au. I gychwyn, yr unig fodd o ddanfon llythyrau i’r geidwad oedd trwy eu gostwng ar system o fasgedi a chebl. Ond yn y 1930au cynnar adeiladwyd rhes o risiau – pedwar cant a thri ohonynt – a Mr Rees oedd yn gorfod eu defnyddio unwaith bob dydd. Amcangyfrifodd iddo ddringo, neu ddisgyn, filiwn a hanner o risiau dros gyfnod o chwe blynedd. Yn 1936 ymddangosodd e yn un o ffilmiau newyddion Pathé, gyda rhigwm ar y trac sain:
There are many steps to clamber,
Four-O-three to be exact,
But the postman’s got to climb ‘em
And so far he’s never slacked.Up and up and up he trudges,
Each step nearer to the top,
Trust OHMS the postman,
Mr R.G. Rees can’t stop.
Heddiw, mae ‘posties’, o gymharu â llawer o weithwyr eraill, yn wyn eu byd – ar y wyneb. Maen nhw’n gwerthfawrogi’r cyfle i weithio yn yr awyr agored, i gadw’n heini, i sgwrsio â’u cwsmeriaid, ac i gadw elfen fawr o reolaeth dros y ffordd maen nhw’n cyflawni eu swyddi. Ond mae’n amlwg y daw tro ar fyd. Mae undeb y gweithwyr, y CWU, mewn anghydfod gyda rheolwyr y Post Brenhinol ar hyn o bryd, achos bod y penaethiaid am gyflwyno modelau newydd o weithio, i gydymffurfio ag arferion y cwmnïau parseli sy’n cystadlu yn eu herbyn. Bydd hyn yn golygu cyflogi grŵp newydd o staff, ar gyflogau is ac amodau gwaith, ac o bosibl ffyrdd newydd o fonitro yn fanwl sut mae’r posties yn gwneud ei gwaith. Am ba hyd tybed fydd y postmon traddodiadol yn parhau?