Ar ddiymadferthwch
Dros y misoedd diwethaf mae rhyw ofid amhendant wedi ymdreiddio i’m meddwl. Nid gofid personol, ond rhywbeth mwy cyffredinol, fel rhyw niwl trwchus sy wedi setlo fel melltith ar y wlad a’r byd, ac sy’n peidio â chael ei symud gan y gwyntoedd di-baid. Mater anodd oedd hoelio’r gofid hwn mewn geiriau – nes imi sylweddoli fod y peth, i raddau, yn ymwneud ag amser – neu, yn hytrach, dau fath gwahanol o amser.
Yn Gymraeg, fel yn Saesneg, dim ond un gair sy’n gwneud y tro o ddynodi ‘amser’. Ond roedd gan yr Hen Roegiaid ddau air. Y gair arferol oedd ‘chronos’ (χρονος), sef y llif cyson, rheolaidd o amser gwrthrychol sy’n cael ei fesuro gan funudau, oriau, misoedd a blynyddoedd. Mor bwerus ac anorchfygol oedd yr amser hwn fel bod y Groegiaid yn tueddu i gysylltu ‘chronos’ ag un o’u duwiau, Cronos (‘Sadwrn’ y Rhufeiniaid). Nid duw fel y cyfryw oedd e, ond un o’r Titaniaid, a ddaeth cyn y Duwiau. Un o nodweddion llai apelgar Cronos oedd ei hoffter o fwyta ei blant ei hun. Daeth yr arfer annymunol yma yn symbol o sut bydd Amser yn dinistrio pob peth sy’n dod i fod o dan ei reolaeth: ‘tempus edax rerum’ (amser lleibiwr pethau), chwedl y bardd Rhufeinig Ofydd, neu ‘devouring time’ fel yn un o sonedau William Shakespeare.
Mae pob un sy’n byw ar y ddaear yn gaeth i Cronos, ac nid oes modd i neb amharu ar nerth ei lif. Ond i’r Groegiaid roedd math arall o amser, a’u henw arno oedd ‘kairos’ (κάίρος). Y cyfieithiad arferol ohono yw ‘yr amser cywir’. Er enghraifft, yr amser mwyaf addas ar gyfer rhyddhau saith o’r bwa fel ei fod yn cyrraedd ei darged yn berffaith. Pobl addysgedig, yn ôl un awdur, Isocrates, yw ‘y rhai sy’n rheoli’r amgylchiadau sy’n codi o ddydd i ddydd, ac sy’n gwybod sut i gwrdd â chyfleoedd (κάίρων) a pheidio â cholli’r penderfyniad cywir’. Felly, er bod llif ‘chronos’ yn amhosibl i’w atal, gall dyn gymryd mantais o fomentau yn y llif er mwyn cyflawni eu hamcanion, fel y bydd syrffiwr yn dewis y don fwyaf addawol sy’n dod ato er mwyn llywio ei fwrdd tua’r llan.
A’r gofid sy’n fy ngormesu ar hyn o bryd yw bod ‘kairos’, mae’n ymddangos, bron wedi marw – bod neb bellach yn gwybod sut mae ‘dargyfeirio’ amser a’i atal rhag ein hala i ebargofiant.
Enghraifft amlwg yw cyflwr gwleidyddol y Deyrnas Unedig. Dyma wladwriaeth sydd yng ngafael clique bach o eithafwyr asgell dde, y mae eu rhagfarnau a’u hideoleg yn eu gwthio o un gyflafan i’r nesaf, heb unrhyw ystyriaeth o’r canlyniadau i bobl y wlad. Does dim un ohonyn nhw sy’n ddigon gwybodus i allu newid cyfeiriad a manteisio ar gyfleodd sy’n cynnig gobaith. Yn waeth byth, mae rhywun yn gweld ‘chronos’ yn dechrau troi mewn cylch dieflig: dywedir bod cynghorwyr i George Osborne, y dyn a wnaeth mwy o ddifrod inni na nag unrhyw aelod arall o’r criw, wedi dychwelyd i’r llywodraeth i gynllunio ail rownd o ‘awsteriti’ fel rhan o gyllideb Jeremy Hunt. Dyw tlodi ddim yn ffawd anochel inni. Ond does neb â grym gwleidyddol sy’n medru meddwl yn wahanol – er enghraifft trwy droi Brexit yn ôl, neu drwy cyflwyno trethi ar gyfoeth yn hytrach nag ar incwm, o ystyried mai 10% o bobl yn meddu ar 43% o gyfoeth y wlad. Mae ein harweinwyr (a’r Blaid Lafur hefyd) wedi anghofio sut i saethu a sut i syrffio. Maen nhw wedi ildio eu hunain i ‘chronos’, gan anwybyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddylanwadu ar ei gwrs. Yn y cyfamser does dim dewis i’r gweddill ohonon ni na sefyll ar yr ymylon, heb obaith.
Enghraifft arall, llawer mwy difrifol, yw’r argyfwng hinsawdd. Mae’n amhosibl edrych am yr hyn sy’n digwydd yn COP27 yn Sharm El Sheikh heb deimlo fod y cyfle i achub y ddaear rhag gor-gynhesu yn llithro trwy ddwylo arweinwyr llywodraethau’r byd. Ychydig iawn o’r addewidion a wnaethon nhw yn COP28 yn Glasgow sydd wedi’u gweithredu hyd yma, a does dim llawer o weld y penderfyniadau mawr newydd sydd eu hangen, megis trosglwyddo arian i wledydd tlotach er mwyn iddyn nhw ymdopi â’r newidiadau sy’n eu hwynebu. Yn ôl Caroline Lucas AS, mae dros 600 o lobïwyr dros gwmnïau olew yn mynychu COP27 – pob un yn benderfynol o waredu neu wanhau cynigion cryfion i liniaru’r broblem. Yn y DU, fel mewn gwledydd eraill, mae gagendor mawr rhwng rhethreg y llywodraeth a’i gweithredoedd, a dim iot o ddealltwriaeth bod ‘twf economaidd’ cyson yn berygl i’r blaned.
Dim ond ychydig o bobl erbyn hyn sy’n gwadu bod cynhesu byd-eang yn digwydd – mae hyd yn oed y BBC wedi rhoi gorau i roi llwyfan cyhoeddus iddynt ‘er gydbwysedd’ – ac ar y llaw arall, llawer iawn o bobl, yn enwedig pobl iau, sy’n galw am newid sylfaenol yn ein ffordd o fyw. Ond dyw’r bobl mewn grym ddim yn medru dychmygu, heb sôn am weithredu, am fesurau ystyrlon fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
A dyma’r rheswm – bod cyfleoedd ar gael i weithredu yn erbyn llif dinistriol amser, ond bod neb o’n cynrychiolwyr yn fodlon eu cymryd – pam fod niwl yn dal i hongian uwchben ein pennau, a ninnau’n teimlo mor ddiymadferth.
Gwir a thrist…