Ar y Ffordd Ddu
Nôl yn Nolgellau am ddeuddydd o gerdded ar Gader Idris. Ond mae ’na broblem. Er bod diwedd mis Mai, ar gyfartaledd, yn un o’r cyfnodau sychaf yn y flwyddyn, dyw hi ddim yn dilyn na fydd hi’n bwrw glaw o gwbl. Ac eleni, wrth gwrs, yw Blwyddyn y Glaw, a dyma ni yn nesáu at ddiwedd y gwanwyn gwlypaf ers amser maith.
Wrth basio trwy Fachynlleth, mae’r awyr yn dechrau duo a’r glaw am ddisgyn. Erbyn cyrraedd Corris Uchaf, mae Cader wedi diflannu i’r cymylau a’r niwl, ac mae’n amlwg na fydda i ddim elwach ar geisio dringo’r mynydd.
Cynllun B, felly, yw mynd am dro yn y glaw ar dir llai uchel, sef rhan o’r ffordd sy’n dwyn yr enw’r Ffordd Ddu. Dyma’r hen, hen lwybr sy’n mynd o Ddolgellau i Lwyngwril a’r arfordir, ac i Lanegryn, gyda changen sy’n croesi’r ucheldir i Lanfihangel-y-Pennant. Mae’n osgoi’r prif ffordd heddiw o wneud y daith. Yn lle cadw gyda glan afon Mawddach, mae’n mynd, bron mewn llinell syth, wrth odre wyneb gogleddol Cader. Heddiw, mae’r ffordd hon yn dawel neu dawel iawn, gan ddechrau fel heol gul, wedyn troi’n lôn agored, wedyn yn llwybr heb wyneb caled.
Wedi gyrru i fyny’r lôn serth, droellog o bentref Arthog, gadawais i’r car ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar bwys Llynnoedd Cregennen. Doedd neb i’w weld. Roedd golwg oer, lwyd ar y ddau lyn, yng ngwyll y prynhawn hwyr, a’r glaw yn dechrau dwysáu a’r gwynt yn codi o’r gogledd-orllewin.
Cerddais i ar hyd y lôn, tu heibio i’r llyn llai, a dod at y Ffordd Ddu. I’r dde, milltiroedd o gerdded tua’r gorllewin, ond troais i’r chwith a dechrau mynd lawr Cwm Nant-y-gwyrddail. Erbyn hyn roedd y glaw yn disgyn yn drymach. I’r dde, cododd llethrau serth Cader, llawn creigiau a sgri, ond roedd pennau’r mynydd, Carnedd Lwyd, Craig-las a Braich Ddu, i gyd ar goll yn y cymylau tywyll.
Ar ôl cwpwl o filltiroedd, gadawais i’r Ffordd Ddu am lwybr ar ochr arall y cwm, sy’n arwain at Nant-y-gwyrddail, hen fferm sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynigiai perchnogion y tŷ wely a brecwast: yn 1944 ysgrifennodd rhywun yn llyfr yr ymwelwyr y cwpled, ‘Tired and thin we staggered in / Happy and stout we waddle out’. Ymysg yr ymwelwyr eraill oedd dau ffoadur, o Awstria a Tsiecoslofacia.
Wedyn, ymlaen tuag at Lynnoedd Cregennen a’r car. Cyn y diwedd roeddwn i’n wlyb hyd at fy nghroen, ac yn falch o gyrraedd y car a dilyn y Ffordd Ddu i lawr tuag at Ddolgellau.
Er bod y Ffordd Ddu yn ddigon tawel heddiw, ac eithrio yn ystod gwyliau’r haf, mae’n debyg ei fod yn brysurach yn yr oesoedd a fu. Wrth ei hymyl fe welwch chi lawer o hynafiaethau. Bron yn syth ar ôl cychwyn o’r maes parcio, pasiais i faen mawr yn sefyll nid nepell o’r lôn. Ond mewn gwirionedd mae’r tir ar bob ochr i’r Ffordd Ddu yn llawn safleoedd cynhanesyddol: meini hirion, carneddau, cylchoedd cutiau a bryngaerau – i’r fath raddau fel bod rhai’n ystyried yr ardal o gwmpas Llynnoedd Cregennen yn safle sanctaidd (angladdol neu ddefodol). Dros y blynyddoedd mae nifer o wrthrychau o’r Oes Efydd wedi dod i’r fei yn yr ardal, gan gynnwys torc aur o Ffridd Gilfachwyrdd ger Llyn Gwernan.
Aeth Thomas Pennant ar hyd y Ffordd yn yr 1770au canol:
… I began another [journey], in order to encircle the vast base of the mountain. I took the same road as I did before, and continued my ride beneath Tyrrau Mawr, one of the points of Cader Idris, the highest rock I ever rode under. Beyond, on the right, are the two pools called Llyniau Cregenan; and not far distant, are some remains of circles of upright stones, with many carns; a vast stone, raised erect on the top of a neighboring rock; and several meini hirion, or rude upright columns.
Soniodd Pennant hefyd am Lys Bradwen, gweddillion hen anheddiad ychydig i’r gorllewin o’r Llynnoedd – un o lysoedd Ednowain ap Bradwen, meddai fe, arweinydd lleol o’r oesoedd canol cynnar. Ac mae’n bosib bod y porthmyn, ar diwedd yr oesoedd canol ac ar ôl hynny, yn defynyddio’r Ffordd fel llwybr i’w buchod o’r arfordir i Loegr.
Beth am yr enw? Beth yw ystyr y ‘Ffordd Ddu’? Ar brynhawn hwyr glawiog ym mis Mai dyw ‘du’ ddim yn ansoddair anaddas. Ond hyd yn oed mewn tywydd teg, cysgodir y llwybr, yn ystod y rhan fwyaf o’r dydd, gan drwch ac uchelder y mynydd hir. Yn fwy tebyg, tarddiad yr enw yw liw y llechi yn yr ardal.
Ond prin fod rhai awduron yn medru gwrthsefyll y temtasiwn i gysylltu’r cwm anghysbell gyda rhywbeth llawer mwy sinister – marwolaeth. Y llwybr at y byd arall yw’r un sy’n aros inni ar ddiwedd y Ffordd Ddu yr yr ysgrif fyfyriol a ysgrifennwyd yn 1908 gan Owen Rhoscomyl (cymeriad lliwgar a elwid fel arall Robert Scourfield Mills ac Arthur Owen Vaughan), oedd yn byw yn Arthog ar y pryd.
Ac yn ei stori antur hanesyddol ‘Ar y Ffordd Ddu’, a ymddangosodd yn Cymru yn 1911, mae E. Morgan Humphreys hefyd yn cysylltu’r llwybr â marwolaeth, yn yr achos hwn, marwolaeth dreisiol. Brodor o Ddyffryn Ardudwy, ar ochr arall i afon Mawddach, oedd Humphreys, ac yn amlwg yn gyfarwydd iawn â thopograffi’r Ffordd Ddu – a’i hinsawdd. Dyma ei ddisgrifiad bywiog o sut gall y tywydd droi’n sydyn yn y parthau uchel hyn:
Gordoid y wybren, oedd mor las awr yn ôl, â’r cymylau trymion, llwyd-welw, sydd yn ymgasglu mor gyflym, yn enwedig lle bo mynydddoedd, ym mis Awst. Diffoffwyd tanbeidrwydd yr haul, a thaflwyd cysgodion trwm ar y cwm a cilfachau’r mynyddoedd, a chrwydrodd awel fain, leddf, dros y rhos, gan greu si gyfrin yn y gwellt sych. Cododd Beti ei phen a gwelodd fraich o niwl yn gorwedd ar draws y Tyrrau Mawr …