
Rhodfa lydan â dwy linell o dderw a ffawydd oedd y Lôn Goed, a dim mwy na hynny, i ddechrau.
Enw yn unig oedd y Lôn imi tan y ddiweddar, pan ddarllenais gyfrol ddifyr Rhys Mwyn, Real Gwynedd, a darganfod mai lleoliad go iawn yw hi. Ac yn wir, lleoliad hanesyddol. Fe’i lluniwyd gan John Maughan, rheolwr ystad Talhenbont, un o blastai’r Arglwydd Mostyn, ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ei syniad oedd cysylltu’r odynnau calch yn ardal Afon-wen ger Pwllheli gyda’r ffermydd yn ucheldiroedd Eifionydd i’r gogledd: byddai cartiau’n cludo calch i’r ffermydd, i’w gwasgaru dros y caeau er mwyn cyfoethogi’r tir, a chludo mawn (ac, o bosibl, ŷd) o’r tir uchel lawr i’r arfordir.
Roedd Maughan, dyn o Northumberland yn wreiddiol, yn un o’r ‘gwellhawyr amaethyddol’ o’i gyfnod, fel Thomas Johnes yng Ngheredigion a William Maddocks yn ardal afon Glaslyn. Credai ei bod yn bosibl troi gwlad lom, fynyddig Cymru yn wlad ffrwythlon. Yn ôl y sôn bu’n weithgar mewn sawl lle yn Llŷn, yn plannu coed a thorri ffosydd i sychu’r tir, ac ar ôl gadael Eifionydd aeth i fyw i ardal Llanbedr yn Ardudwy a pharhau i wella’r tiroedd.

Yn Eifionydd yn 1817 aeth Maughan at ei waith o adeiladu’r ffordd newydd yn ofalus. Tua deuddeg llath oedd lled y lôn. Ceisiodd baratoi wyneb gwastad, er bod y gwaith hwn heb ei orffen. Plannodd goed ar ymyl y ffordd, i gynnig cysgod rhag y gwynt a’r glaw, ac er mwyn atal dŵr rhag cronni ar y ffordd (at yr un diben lluniodd ffosydd yr ochr arall i’r ddwy linell o goed). Byddai wyth neu naw o weithwyr yn cloddio’r ffosydd, plannu’r coed a symud cerrig mawr o’r neilltu ar yr un pryd, a’u tâl oedd deg swllt yr wythnos. Cwblhawyd y ffordd erbyn 1828: rhyw bum milltir rhwng Afon-wen a Hendre Cennin. Yr enw arni ar y pryd oedd ‘Ffordd Maughan’, a gafodd ei lygru, yn nes ymlaen, i ‘Ffordd Môn’. Pryd tybed ychwanegwyd yr enw ‘Lôn Goed’? Rhywbryd, siŵr o fod, unwaith bod y glasbrennau wedi tyfu i fod yn goed aeddfed.

Bron o’r dechrau atynnodd y Lôn Goed sylw beirdd yr ardal. Yn 1820 canodd David Owen (Dewi Wyn o Eifion), a hanodd o Gaerwen, yn agos i’r Lôn, awdl (‘Awdl cyfarch y gweithwyr’) yn canmol y rhai a gweithiai ar y ffordd a’r dirwedd newydd a wnaed o ganlyniad gwaith Maughan:
Creu a wnewch i’n Caerwen ni
Cysgod rhag dyrnod oerni;
Cysgodion lle cwsg adar
Tŷ’r edn gwyllt, a’r eidion gwâr.
Gwinllanoedd, o gynlluniau – Gardd Eden,
Ar dir y Gaerwen, o’r derw gorau.
Roedd tad y bardd a chyfieithydd Morris Williams (Nicander) wedi gweithio ar wneud y Lôn, ac o bosib Nicander ei hun yn ŵr ifanc. Wedyn dyma Ebenezer Thomas (Eben Fardd), yn ei ddyddlyfr, 8 Medi 1838, ar gerdded:
… nes cyrraedd Ffordd Newydd Maughan, yr hon nis gwelawn erioed o’r blaen; ymddangosai fel swyn, trwy rin y cyfnewidiad y wnâi yn yr olygfa, ynghyd a’r effaith ar y teimlad. Rhyw barth noethlwm ac anhygyrch oedd yr ardal o gwmpas y Gaerwen yn flaenorol ond yn awr ymddangoshai braidd fel Dyffryn Llanystumdwy, yn diroedd ffrwythlawn addurnedig â ffyrdd a choed; ymylid y ffordd hon gan irwydd [coed ifanc] prydferth a deiliog, a’i gwnelai yn rhodfa eang, ysgafn a phleserus.
Eisoes roedd y Lôn Goed yn peidio â bod yn ddull o gludo deunydd o A i B, ac yn troi’n lle meddyliol – rhyw baradwys ar wahân i’r byd go iawn. Daeth yn ddihangfa i gerddwyr a chrwydrwyr, yn hytrach na gwaith llafurus i’r cert a’r ceffyl. I addolwyr a phregethwyr Capel Engedi, wrth ymyl y Lôn yn ardal Chwilog, roedd hi’n rhodfa ddymunol yng ngwres yr haf.

Ond heddiw’r bardd sydd fwyaf cysylltiedig â’r Lôn Fawr yw R. Williams Parry, trwy ei gerdd ‘Eifionydd’. Yn y ddau bennill gyntaf mae Williams Parry yn chwilio am hafan rhag ‘hagrwch’ y byd gwaith ac ‘ymryson ynfyd’ cyfalafiaeth, ac yn ei darganfod yng nghefn gwlad Eifionydd – yn arbennig y Lôn Goed:
A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I’w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
A dull y byd a wn;
A rhodio’i heddwch wrthyf f’hun
Neu gydag enaid hoff, cytûn.

Yr hyn sy’n apelio yw nid yn unig harddwch a llonyddwch y Lôn, ond y ffaith nad yw’n arwain i unlle arbennig. Digon syml yw’r gerdd, ar y wyneb. Ond nid fi yw’r unig un sy’n sylwi ar y gair ‘gorffenedig’ – ‘perffaith’ yw’r trosiad arferol, ond mae ‘gorffenedig’ yn awgrymu teimlad sydd drosodd erbyn hyn – a geiriau amwys y llinell olaf.
Erbyn i ‘Eifionydd’ ymddangos yn y casgliad Cerddi’r gaeaf yn 1952 roedd y Lôn Goed wedi cwblhau ei thaith o fod yn ffordd cert-a-cheffyl i fod yn symbol cymhleth. Roedd Williams Parry yn ymwybodol o nerth ei gysylltiad ysbrydol â’r Lôn pan ymddangosodd mewn lluniau yn 1950 yn yr ardal.


Leave a Reply