Y llyn a ddiflannodd

February 23, 2024 0 Comments

Rydyn ni’n hen gyfarwydd yng Nghymru â’r arfer o greu llynnoedd newydd.  Cronfeydd dŵr yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw, wrth gwrs.  Mae eu henwau – Efyrnwy, Clywedog, Elan, Claerwen, Brianne, Tryweryn – yn niferus, ac yn atseinio’n alarus trwy’r degawdau, ynghyd â geiriau cysylltiedig: boddi cymoedd, symud cymunedau, codi argaeau concrit.  Ond mae hanes arall – o lynnoedd oedd yn arfer bod, ond sydd wedi diflannu.  Des i o hyd i un ohonyn nhw yn ystod peth ymchwil yn ddiweddar ar Gader Idris.

Samuel Hieronymus Grimm, A view from above the Pool of Three Grains in Merionethshire (1780)

Enw’r llyn oedd Llyn y Tri Greyenyn, a oedd i’w weld ar ben Cwmrhwyddfor, dan gysgod Mynydd Gwerngraig, bryn ar ochr dde-ddwyreiniol Cader Idris, ar ymyl yr hen ffordd oedd yn cysylltu Minffordd a Cross Foxes.  Aeth y ffordd newydd (A487), pan godwyd hi yn y 1960au, yn syth trwy’r safle, gan ddileu’r llyn.  Dyma le mae maes parcio bach heddiw.  Erys gweddillion o’r llyn o hyd yn y tir corslyd gyferbyn â’r maes parcio.

Cwmrhwyddfor (llun: gwallter)

Beth am yr enw?  Ffurf arall ar ‘graeanen’ yw ‘greynyn’: gronyn o raean.  Mae’n gysylltiedig â stori am Idris, y cawr sy’n gwarchod y mynydd uwchben.  Cofnodir brenin ym Meirionnydd o’r seithfed ganrif o’r enw Idris ap Gwyddno, ac mae’n bosib mai e oedd gwraidd yr enw presennol ar y mynydd.  Roedd y cawr yn enwog am eistedd – gyda’i ben-ôl yn gyfforddus yn Llyn Cau? – ond pan geisiodd e gerdded, teimlodd rhywbeth yn brifo o dan ei sodlau.  Wedi siglo’r graean o’r traed, meddai’r stori, taflodd e dri gronyn i ffwrdd, i rolio lawr y mynydd:

… three vast rocks, the ruins of the neighboring mountain, which some time or other had fallen into the water.  They, say the peasants, were the three grains that had fallen into the shoe of the great Idris, which he threw out here, as soon as he felt them hurting his foot.

Hwn yn ôl Thomas Pennant (Tours in Wales, cyfrol 2, t.96).  Fel dyn mewn oes ychydig cyn dyfodiad yr ysbryd rhamantaidd, roedd e’n methu gwerthfawrogi ysblander ac arucheledd y mynyddoedd sy’n gwgu ar draws Cwmrhwyddfor:

No verdure is to be seen, but a general appearance of rude and savage nature. The sides are broken into a thousand crags, some spiring and sharp pointed; but the greater part project forward, and impend in such a manner, as to render the apprehension of their fall tremendous. A few bushes grow among them; but the dusky color of them, as well as the rocks, only served to add horror to the scene.

Map degwm Dolgellau (1840) (manylyn)

Edward Llwyd, mae’n debyg, yw’r cyntaf i gofnodi’r enw, yn ei nodiadau a gyhoeddwyd fel ‘Parochialia’ yn 1909-11: ‘Lhyn pen Morva als [alias] Lhyn y tri Grayenyn ym mlaen K. Rhwydhor ar dervun pl. [plwyf] Dol Gelhey.’  Ar fap degwm Dolgellau yn 1840 ymddengys y llyn fel ‘Llyn Tri Graienyn’.  Ond wedyn, ar fapiau’r Arolwg Ordnans – sefydliad amheus, wrth gwrs, o ran cofnodi enwau lleoedd yng Nghymru – aeth yr hen enw ar goll, ac yn ei le daeth yr enw ‘Llyn Bach’.  Am sbel hir dyna oedd yr enw – a Bwch y Llyn Bach oedd yr enw ar y cwm – ond erbyn heddiw mae’r enw hwnnw hefyd wedi diflannu.

Map OS 1888 (manylyn)

Cawn sôn am hen stori arall mewn cerdd ddoniol gan Lewis Morris o 1750 o’r enw ‘Traethodl o Daith Llywelyn Ddu o Allt Fadog Yngherediogion tua Nannau ym Meirion’ – rhan o lythyr i William Vaughan o Nannau.  Yn y gerdd mae Morris yn siarad am daith (real neu ddychmygus) ar gefn ceffyl sy’n dilyn y ffordd (serth a pheryglus) i lawr Rhiw Gwgan o Gorris Uchaf i Finffordd ac wedyn ar hyd Cwm Rhwyddfor.  Esbonia Morris wrth Vaughan: ‘The following you’ll find to be an Account of my Journey the other day when I Intended to spend a day or two with you at Nannau, but found at Dolgelleu that you were not at home.’  Mae’n cychwyn trwy ddweud mai ei fodel farddonol yw’r clerwr Robin Clidro yn hytrach na’r bardd Rhufeinig Horas a adroddodd ei daith o Rufain i Frindisi.  ‘The Stile’, medd Lewis, ‘is neither prose nor verse, but between both’.  Dyma’r darn lle mae’n sôn am Lyn y Tri Greynen:

… a daccw’r fan lle syrthiodd
gwr ai geffyl oi anfodd
Duw gadwo i bawb eu cymalau
wrth dramwy mhlith y Creigiau …
ar ffordd fawr gan arwed
gorifynu goriwared
a’r ceffylau’n crynnu
rhag troi ai torr i fyny
a’r creigiau mawr Crogfeydd
ymron syrthio ar eu gilydd
cystal a phregeth ar fin bedd
i gofio i ddyn ei ddiwedd.
Galw yn Minffordd yn frau
i olchi trwm feddyliau
yfodd y tafarnwr y gorau
rhoes y gwaetha i ninnau
oddiyno dan graig ddibyn
trwy fwlch y tri graienyn
a rhyfedd Iawn (os gwir hwn)
lle pisodd gwiddon lonaid llyn
oddiyno’r aethom och, och, och
i erwinffordd y bwlch coch
ffordd a wnaed yn nechreu byd
i bechadur yn benyd
fal y doe i Ddolgellau
yn lân oddiwrth ei feiau …

Does dim sôn cyn hynny am y ‘gwiddon’, sef gwraig Idris, sy’n llenwi llyn gyda’i dŵr. Ond roedd y traddodiad yn fyw o hyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. ‘I must stop and taken these pebbles out of my shoes’, meddai Idris wrth ei wraig, yn ôl stori tad ‘Mr T. Payne’ yn 1896, ‘while I am doing so, you can amuse yourself by forming a pool here.’

Erbyn hyn mae popeth wedi mynd i ebargofiant: y gawres, y llyn, y tair carreg fawr a’r ddau enw ar y llyn.  Heddiw y safle yw hoff faes parcio y rhai sy’n arfer gwylio’r awyrennau milwrol ar y llwybr awyr a elwir ‘Ddolen Mach’ – gan greu sŵn annioddefol i gerddwyr sy’n chwilio am lonyddwch ar y mynyddoedd.  O’r maes parcio mae’r gwylwyr yn arfer dringo ychydig i safbwynt a elwir ‘Cam 1’, ar lethrau Mynydd Gwerngraig, neu, ar ochr arall y ffordd, ‘Cam 2’, uwchben Craig y Llam.  Yn ddiweddar awgrymodd Panel Safoni Enwau Lleoedd, sy’n cynnig cyngor i Gomisiynydd yr Iaith, y dylid atgyfodi enw Llyn y Tri Greynen ‘er mwyn osgoi bathu enwau eraill’.  Ond efallai bod dim modd atal y don o Seisnigeiddio, a dim modd cadw geirfa hanesyddol gyfoethog Cader Idris i’r genedlaethau i ddod.

Leave a Reply