Cymru a W.G. Sebald
Cyhoeddodd W.G. Sebald Austerlitz, ei nofel olaf (os mai nofel yw hi) yn Almaeneg yn 2001. Pan ddaeth y fersiwn Saesneg allan yn 2002, roedd yn syndod i ddarllenwyr yma i ddarganfod mai Cymru yw un o’i phrif leoliadau, mewn llyfr sy’n crwydro dros rannau helaeth o gyfandir Ewrop.
Hanes dyn o’r enw Jacques Austerlitz yw craidd y llyfr, trwy eiriau Austerlitz ei hun. Ond nid cofiant syml mohono. Cawn glywed am ei fywyd trwy ei lais ei hun, ond fel mae’n cael ei adrodd, yn anuniongyrchol, gan storïwr dienw, sy’n cwrdd ag Austerlitz mewn cyfres o gyfarfodydd mewn amryw leoliad ar draws Ewrop. Hanes ysbeidiol a rhannol, felly, yw e, a chlywir llais Austerlitz, fel petai, trwy ryw hidlen neu fwgwd trwy’r llyfr.
Ar ben hynny, adroddir y naratif mewn ffordd nodweddiadol Sebaldaidd – mewn golygfeydd episodaidd sy’n ‘toddi’ o’r un i’r nesaf, fel meddyliau cysylltiadol neu fel mewn ffilm. Mae’r iaith hefyd yn unigryw ac yn fwriadol hen-ffasiwn ac Edwardaidd, gan ddefnyddio rhestrau di-rif, brawddegau hir, meddylgar, a chymalau cymhleth, fel y gall y darllenydd golli trac o’r ystyr a hyd yn oed y lleoliad. Fel mewn llyfrau eraill gan Sebald, gwasgarir lluniau bach du a gwyn, heb gapsiynau, trwy’r testun. Y canlyniad yw stori sy’n ymhell o fod yn gwbl eglur, un sy’n cofleidio elfen o ‘ansicrwydd’ – adlais o’r ansicrwydd naturiol sydd mewn bywyd, ac yn arbennig bywyd Austerlitz ei hun.
Yn y Bala mae Austerlitz yn cychwyn ei stori, yn ddisymwth, heb esbonio sut cyrhaeddodd yna yn 1939 fel bachgen bach o dras Iddewig, pedair a hanner blwydd oed. Mewn mans ar gyrion y dref y mae’n byw, o dan yr enw Dafydd, gydag Emyr Elias, gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd a’i wraig dawedog Gwendolyn. Cawn ddarlun Gothig, sinistr o’r tŷ: mae’n rhy fawr i dri o bobl, yn iasoer trwy’r flwyddyn (dyw’r ffenestri byth ar agor), ac yn dawel oherwydd diffyg cyfathrebu rhwng y ddau Elias. Yr un mor ddiflas yw eu ffordd o fyw. Tra mae ei wraig yn gwneud y gwaith tŷ di-baid ac yn paratoi prydau bwyd tenau iddynt, mae Elias yn cloi ei hun yn ei stydi, gan baratoi ei bregeth at y Sul, fydd yn peintio darlun byw o Ddydd y Farn, tanau Purdan ac arteithiau Uffern (byddai nifer yn y gynulleidfa’n gadael y capel â’i hwynebau ‘yn wyn fel cynfas’).
(Mae’n debyg i Sebald fenthyca’r stori hon o hanes Susi Bechhöfer, merch a ddaeth i Gymry trwy’r Kindertransport a byw yng Nghaerdydd gyda gweinidog gyda’r Bedyddwyr. Daeth hi i wybod yn hwyr am ei gwreiddiau yn yr Almaen a ffawd ei mam, Rosa, yn Auschwitz-Birkenau.)
Un tro mae Elias yn mynd â Dafydd i weld Llyn Efyrnwy. Ar ôl i’r gweinidog esbonio am foddi pentref Llanwddyn er mwyn creu cronfa ddŵr yn 1888, a dangos hen luniau o’r trigolion condemniedig, mae Dafydd yn gweld y pentrefwyr yn ei ddychymyg fel drychiolaethau, ‘yn y dyfnderoedd o hyd, yn eistedd yn eu tai, ac yn cerdded ar hyd yr heol, ond yn fud a’u llygaid wedi’u hagor yn rhy agored’. Weithiau mae’n meddwl ei fod yn adnabod rhai o’r bobl yn y lluniau’n cerdded ar hyd strydoedd y Bala. Dywed Elias wrtho am beidio â ‘siarad am y fath bethau’.
Er mwyn dianc o ‘gaethiwed’ y tŷ, mae Dafydd yn crwydro strydoedd y Bala, a dod yn gyfaill i grydd o’r enw Evan:
… yr oedd ei weithdy heb fod yn bell o’r mans, ac roedd ganddo’r enw o allu gweld rhithiau. Hefyd dysgais i Gymraeg gan Evan, a hynny’n glou iawn, o achos bod clywed ei straeon yn well ’da fi na’r salmau ac adnodau o’r Beibl y bu raid imi eu dysgu at yr ysgol Sul.
Yn ôl Evan, mae’r drycholiaethau’n cerdded o gwmpas, er eu bod dipyn yn llai o ran taldra na phobl fyw.
Evan, heb os, a ddywedodd wrthyf, meddai Austerlitz, mai dim ond darn o sidan sy’n ein gwahanu o’r byd nesaf. Mi wn i yn sicr, yn ystod yr holl fynyddoedd dreuliais yn y mans yn y Bala, ni allwn fwrw’r teimlad bod rhywbeth eglur, rhywbeth amlwg ynddo ei hun, yn cael ei gadw rhagof i.
Mae’n glir o’r frawddeg hon – ac mae’n dod yn gliriach byth ar ôl inni glywed rhagor am fywyd Austerlitz – beth yw arwyddocâd cyfnod y Bala yn y nofel. Y gwir yw bod Austerlitz yn fwriadol wedi mygu’r awydd i ofyn cwestiynau am ei orffennol a’i deulu go iawn – yn yr un modd ag roedd Elias a’i wraig wedi claddu pob arwydd o gydymdeimlad a chynhesrwydd – a’r byd presennol tu allan, oherwydd nid oes radio na phapur newydd yn y tŷ i adrodd newyddion o’r rhyfel – o dan glogyn du Calfiniaeth a thawelwch. O’r golwg hefyd y mae trigolion pentref Llanwddyn. Ond, fel credai Evan y crydd, dim ond darn o sidan sydd rhwng y meirwon a’r byw. Yn y pen draw mae’n anodd anwybyddu’r rhithiau o’r gorffennol sy’n pwyso.
Yn nes ymlaen yn y nofel, trwy gyfres o gliwiau, mae Austerlitz yn darganfod y gwir erchyll am ei orffennol: pwy oedd ei rieni (Agáta a Maximilian), ble roeddent yn byw cyn y rhyfel (Prag), sut roedd ei fam wedi’i symud, ar ôl i’r Natsïaid feddiannu Tsiecoslofacia, i wersyll-garchar Terezín (Theresienstadt) cyn diflannu, a sut roedd ei dad wedi mynd i Ffrainc cyn diflannu. Ef oedd yr unig un o’i deulu i oroesi, trwy gael ei gludo ar un o’r ‘Kindertransport’ i Brydain cyn i’r rhyfel ddechrau.
Cyn hir daw Cymru i’r stori am yr ail dro. Erbyn hyn anfonwyd Jacques ymaith i ysgol breswyl yng Nghroesoswallt (aethpwyd ag Elias i’r Seilem yn Ninbych wedi marwolaeth ei wraig). Dros hanner tymor mae Adela, mam un o ffrindiau Jacques yn yr ysgol, Gerald Fitzpatrick, yn ei wahodd i aros gyda nhw yn eu tŷ, Andromeda Lodge, y tu allan i’r Bermo. Am y tro cyntaf yn ei fywyd ym Mhrydain, mae Jacques yn teimlo pleser yn ei amgylchedd. Mwy na phleser, perlewyg. Dyna sut mae’n disgrifio’r daith ar y trên o Wrecsam i’r Bermo [taith sy’n amhosibl heddiw, gwaetha’r modd]:
Droad ar ôl troad, dilynai ein trên yr afon wrth iddi ymdroelli, edrychai’r dolydd glas i mewn trwy ffenestri agored y cerbyd, felly hefyd y tai llwydgaregog neu wyngalchog, y toeon llechi sgleiniog, yr helyg â’i chysgodion arian, y coed gwern dywyll, y porfeydd defaid yn codi y tu hwnt i’r coed, ac, yn uwch byth, y mynyddoedd, weithiau â gwawr glas arnynt, a’r wybren, lle hwyliai’r cymylau bob amser o’r môr tua’r dwyrain. Hedfanai anwedd carpiog heibio y tu allan; gallwch glywed yr injan yn chwibanu a’r awyr yn oeri ar eich talcen. Teithiais i erioed yn well, meddai Austerlitz, nag ar y daith hon o saith deg milltir ar y mwyaf, a gymerodd tair awr a hanner …
… Ar ben pellaf Llyn Tegid aeth y lein reilffordd dros anticlein isel i ddyffryn afon Mawddach. Roedd y mynyddoedd yn uwch erbyn hyn, gan ddod yn nes ac yn nes at y cledrau nes cyrraedd Dolgellau, lle cilion nhw, a disgynnai llechweddau llai serth i aber afon Mawddach, sy’n ymestyn yn bell i’r tir fel ffiord. Yn y diwedd, ar ôl inni adael y lan ddeheuol a chropian i’r lan arall ar draws y bont, bron yn filltir o hyd, a gynhelir gan byst derwen mawr, ar y de, gwely’r afon y mae’r môr yn ei foddi pan fo’r llanw i mewn fel ei fod yn edrych fel llyn yn y mynyddoedd; ar y chwith, Bae’r Bermo, yn ymestyn i’r gorwel disglair, teimlais mor llawen fel prin fy mod i’n gwybod i ble i edrych yn gyntaf.
Mae Andromeda Lodge yr un mor swynol i Jacques: y tŷ (‘math o amgueddfa byd natur’), ei leoliad yn edrych dros afon Mawddach tuag at Gadair Idris, y cocatŵod gwyn, y gerddi egsotig, a’r teulu – Adela (‘hardd’) a’r ddau hen ewythr ecsentrig, Evelyn ac Alphonse – a dau brofiad trosgynnol, ecstatig: treulio nos gyfan gyda Evelyn yn edrych ar wyfynod, ac eistedd ar Bont y Bermo yn y gwyll yn edrych ar wenoliaid.
Pegynau croes, eithafol, felly, yw Cymru’r Bala a Chymru’r Bermo. Os yw amser Jacques yn y mans gyda’r Eliasaid yn anhapus a negyddol, daw ei ymweliadau â’r Bermo â chyfnodau byr o foddhad a chynhesrwydd a chyfeillgarwch iddo. Ond eithriadol yw’r profiad hwn, mor fyrhoedlog â’r gwyfynod a’r gwenoliaid. Fydd e ddim yn ffeindio llonydd yn ystod gweddill ei stori. Yn 1992 mae ei nerfau’n chwalu, ac yn nes ymlaen mae’n ymddangos nad yw’r profiad o ddarganfod y gwir am ei fam a thad yn dod â diwedd i’w ddioddef.
Paradwys dros dro, felly, yw’r Bermo i Austerlitz. Mae’n dychwelyd i Andromeda Lodge i fynd i cyd-angladd Evelyn ac Alphonse. Golygfa odidog sydd o ‘fynwent Cutiau’ ar draws yr afon tuag at Gadair Idris, ond ‘golygfa ffarwel’ yw hi, sy’n atgoffa Austerlitz o sgetsh a wnaed gan Turner ar ddiwedd ei oes o ‘angladd yn Lucerne’. Yn fuan wedyn mae Adela’n gwerthu’r tŷ a symud i America. Bydd Gerald yn marw mewn damwain awyren.
Rhyw wacter annioddefol sy’n perthyn i gymeriad Austerlitz – ymdeimlad nad yw amser yn beth real, ac nad yw e ei hun mewn gwirionedd yn bodoli:
… dwi’n teimlo fwyfwy fel petai amser ddim yn bod o gwbl, dim ond rhai lleoedd sy’n cyd-gloi yn ôl y rheolau o ffurf uwch o stereometreg, a rhyngddynt gall y byw a’r marw symud yn ôl ac ymlaen fel y mynnant … dwi wastad yn meddwl fel petai dim lle imi yn y byd real, fel petawn i ddim yna o gwbl …
Ac yn wir, diflannu mae Austerlitz o hanes y storïwr dienw, ar ddiwedd eu cyfarfod olaf, heb ffarwel. Mae’n anodd osgoi’r casgliad bod Cymru hefyd – gorthrwm Calfiniaeth y Bala a gorfoledd y Bermo fel ei gilydd – mewn ystyr sylfaenol, yn hollol afreal.
RHAGOR AR AUSTERLITZ A CHYMRU
Mererid Puw Davies, ‘On (not) reading Wales in W’G’ Sebald’s Austerlitz’, Oxford German Studies, vol.47, 2018, p. 82-102.
C.L. Tully, 2014, ‘Out of Europe: Travel and Exile in Mid Twentieth-Century Wales‘, Studies in Travel Writing, vol. 18, no. 2, 2014, p.174-186.
Jeremy Gregory, ‘‘I couldn’t imagine any world outside Wales’: the place of Wales and Welsh Calvinist Methodism in Sebald’s European story’, Melilah: Manchester Journal of Jewish Studies, 2012, Supplement 2.
Brittani Avalon, Sebald’s Austerlitz: submersion in Wales, Washington State University paper, 2013.