Llythyr o Iwerddon

May 12, 2023 2 Comments

Fel y weriniaeth agosaf i Gymru, Iwerddon yw’r hafan amlwg rhag y panto brenhinol, a dihangfa dros dro o’r wlad lle ‘does dim byd yn gweithio dim mwy’. 

Nod arall inni oedd cael teithio’n araf ac ysgafn, gan groesi’r môr ar y fferi o Abergwaun heb gar, ac wedyn mynd o le i le ar drenau, bysiau a thraed. Mantais arall o ‘deithio’n gyhoeddus’ yw cael cwrdd â llawer o Wyddelod a mwynhau siarad â nhw.

Rosslare, porthladd a phentref

Anodd peidio â sylwi, ar ôl gadael y llong, ar y nifer di-rif o loris sy’n aros yma yn Rosslare – aros i fynd i gyfandir Ewrop yn uniongyrchol, ers cyflafan Bregsit, yn hytrach na theithio trwy Gymru a Lloegr.  Mae’n bosib hwylio o fan hyn i Cherbourg, Le Havre a Bilbao.  Does dim syndod mai enw’r porthladd erbyn heddiw yw ‘Rosslare Europort’.  (I’r gwrthwyneb, bu’r porthladd yn Abergwaun yn hynod dawel.)  Mwy nag unwaith heddiw, mewn sgyrsiau gyda chyd-deithwyr, clywn ni’r geiriau ‘fe wnaethoch chi glamp o gamgymeriad trwy adael yr Undeb Ewropeaidd’.

Mae’r trên o’r porthladd i bentref Rosslare (Rosslare Strand) bron yn wag, ond daeth dyn a’i fab i eistedd gyda ni, yn fwriadol er mwyn mwynhau sgwrs ddifyr am hyn a’r llall.  Digwyddodd hyn fwy nag unwaith inni ar ein teithiau – yn Iwerddon o’r celfyddydau cain yw sgwrsio.

Ar draws cwrs golff â ni, ac ar hyd traeth Môr Iwerddon cyn bod yr haul yn machlud – profiad tebyg i gerdded ar fin yr un môr ar Benrhyn Gŵyr, ond am y ffaith bod yr haul yn mynd lawr dros y tir yn hytrach na dros y môr.  Mae gan Donald Trump gwrs golff yn Doonbeg, ar arfordir y gorllewin.  I bobl leol, yn ôl y sôn, mae’n ddiplomataidd, neu’n wrthfelltithiol, i beidio â chyfeirio at Trump wrth ei enw; y pennawd mewn papur lleol yn 2020 oedd ‘Clare hotelier loses out in presidential election’.  Yn ôl adroddiad yn yr Irish Times yr wythnos hon mae busnes Doonbeg wedi cyhoeddi colledion ariannol ym mhob blwyddyn ers i Trump ei sefydlu.

Pentref hir, estynedig yw Rosslare Strand, a llawer o’r tai’n ail gartrefi i bobl gefnog o Ddulyn a’r ardal. (I bobl lai ffodus, mae’r brifddinas yn lle hynod ddrud i fyw ynddo – pwnc llosg yn ein sgyrsiau.)  Yn ein gwesty mae copïau ar werth o un o’r llyfrau a ddaeth allan o’r prosiect gwych a gydlynwyd gan y Ganolfan Geltaidd yn Aberystwyth, Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw.

Crisial a chadwraeth: Waterford

Dal y bws yn y bore i Wexford, ac yna ymlaen i Waterford, yr ail fws yn llawn hen wragedd sy’n clebran nerth eu pennau ac fel pwll y môr, ar eu ffordd i siopa yn New Ross.  Dinas fach hynod atyniadol yw Waterford, yn fyd-enwog am ei diwydiant gwydr.  Wrth ichi nesáu o’r gogledd-ddwyrain, daw rhes o adeiladau golygus i’r golwg sy’n wynebu afon Suir. Mae’r cynllunwyr wedi gwrthsefyll y temtasiwn i ddymchwel yr adeiladau hanesyddol yng nghanol y ddinas, ac wedi ffrwyno’r traffig fel bod cerdded trwy’r strydoedd yn bleser.  Ychydig iawn o ‘blarney’ sydd i’w weld yn ‘Nhriongl y Llychlynwyr’; fel arall, mae’n anodd gweld bai ar y ffordd chwaethus mae’r awdurdodau wedi trin canol Waterford.  Mae sawl amgueddfa, gan gynnwys  yr Amgueddfa Ganoloesol, lle mae estyniad mawr trawiadol wedi’i ychwanegu i’r adeilad gwreiddiol.  I’r gorllewin, gyda help gan dalp mawr arall o arian o’r Undeb Ewropeaidd, mae’r cyngor wrthi’n dod â bywyd newydd i Stryd O’Connell fel safle i’r ‘chwarter creadigol’ – nid yn annhebyg i’r High Street yn Abertawe, gyda llawer o furluniau bywiog. 

Down ni o hyd i’r Book Centre, siop lyfrau enfawr mewn hen sinema, sy’n tystio i archwaeth y trigolion at ddarllen – ac at ddefnyddio siopau ‘brics a mortar’ yn hytrach nag Amazon a’i debyg.  Diddorol nodi bod y ‘stryd fawr’ yn goroesi’n dda yn Iwerddon: does fawr o ‘ddannedd coll’, fel yng nghanol llawer o drefi Mhrydain.  A thra mae degau o dafarndai’n cau bob mis yn y DU, does dim arwydd fod y barrau traddodiadol yma mewn perygl.

Waterford, felly, yw esiampl odidog o ddinas sy’n adfer a datblygu trwy ddefnyddio treftadaeth a’r celfyddydau (dyw hi ddim yn ddamwain, o bosib, fod y ddinas yn gartref i Ysgol Bensaernïaeth).

Ar y trên

Wrth i ni gael brecwast, saif crëyr yn stond ar ochr arall yr afon, yn chwilio am ei frecwast innau, yn union yr un safle lle bu’n loetran y noson gynt, tra mae gwenoliaid y tywod yn fflachio y tu heibio i’r ffenestr.  Wedyn, bant â ni, ar draws yr afon i Orsaf Plunkett.  (Enwebir prif orsafoedd trên Iwerddon ar ôl arweinwyr Gwrthryfel y Pasg a ddienyddiwyd gan lywodraeth Prydain yn 1916: Plunkett, Heuston, Macdonagh, Ceannt ac eraill). O fanno i Galway, gan newid yn Kildare a Portarlington.  (Rhoddwyd tir Portarlington, gyda llaw, gan Charles II i Henry Bennet, Iarll Arlington, fel diolch iddo am gaffael meistresi i’r brenin.)

Yn Iwerddon, o leiaf yn ôl ein profiad ni, mae’r trenau yn brydlon, yn lan ac yn effeithlon.  Eto yn wahanol i Brydain, mae’r system rheilffyrdd yn gyhoeddus ac yn integredig..  Yr unig drueni yw bod cynifer o’r leiniau wedi diflannu.  Does dim rhwydwaith go iawn.  Mae’n amhosib, fel yng Nghymru, teithio o’r de i’r gogledd trwy orllewin y wlad, ac yn gyffredinol mae’n ddealledig eich bod chi’n mynd i (neu o) Ddulyn.

Mae gwahaniaeth arall.  Dyn ni ym Mhrydain wedi dymchwel llawer iawn o’n hadeiladau rheilffyrdd.   Mae’r Gwyddelod, ar y llaw arall, wedi penderfynu cadw eu hadeiladau nhw, a’r pontydd i gerddwyr hefyd, hyd yn oed yn y gorsafoedd lleiaf.  Yn yr un ffordd mae’r swyddfa bost fel adeilad yn bod o hyd yma, yn lle cael ei disodli gan gownter mewn cornel dywyll yng nghefn W.H. Smiths (eto, dyw’r gwasanaeth ddim wedi’i breifateiddio).

Galway, gyfeiliwyd ag Abertawe?

Buon ni yn Galway nôl yn 1973.  Mae’r ddinas wedi newid yn sylweddol, a dim bob tro i’r gwell.  Un o’r problemau yw’r traffig.  Mae ceir a bysys yn tagu’r ffyrdd trwy’r dydd ac yn gwneud bywyd i’r cerddwr yn anodd ac araf.  Yn ddiweddar, daeth arweinwyr Galway dan y llach gan Wulf Daseking, arbenigwr o’r Almaen ar gynllunio trefol, am esgeuluso’r adeiladau hanesyddol, gadael strydoedd ‘fel cegau yn llawn dannedd toredig’, a chodi adeiladau newydd o safon wael.  Mae’n anodd anghytuno. 

Twristiaeth, yn naturiol, yw prif fusnes Galway, gyda Connemara a’r Ynysoedd Aran ar ei stepen drws.  Mae prinder atyniadau yn y ddinas ei hun (roedd yr amgueddfa ar gau ddydd Sul).  Mewn sawl ffordd ymddengys Galway yn debyg i Abertawe: canol y dref sydd braidd yn ddiflas, yr un sgwâr canolog concrit (Eyre Square/Castle Square), yr un stryd ‘adloniant a meddwi’ (Quay Street/Wind Street), a’r un rhodfa glan môr.

Inishmore

Dyma ni ar fwrdd llong yn harbwr Galway, yn y gwynt a’r glaw, er mwyn ymweld â’r Ynysoedd Aran am y tro cyntaf.  Yn raddol mae’r tywydd yn gwella, ac erbyn cyrraedd Inishmore, mae’r haul yn ein croesawu – ynghyd â chriw o ‘hustlers’ sy’n mynnu ein bod ni’n teithio yn eu tacsis, minibysys a cheirt.  Anwybyddu’r cwbl, a dechrau cerdded, mewn taith gylchol, o bentref Kilronan tua’r dwyrain.  Ar unwaith mae rhywun yn ymwybodol o’r cyfoeth naturiol yma – gloÿnnod byw, adar, morloi – ac olion dyn ar yr ynys, yn arbennig y waliau cerrig ymhobman – a’r iaith Wyddeleg, wrth gwrs, a siaredir gan yr ynyswyr.  Diddorol nodi bod poblogaeth yr Ynysoedd Aran wedi disgyn, yn barhaol, o 3,521 yn 1841 i 1,226 yn 2016.

Ar ein ffordd nôl, dyn ni’n hwylio tu heibio i’r ynysoedd eraill, Inishmaan, lle’r oedd ‘hafod’ John Millington Synge, ac Inishee, cartref y llong ddrylliedig MV Plassy, ac wedyn clogwyni Moher, lle mae adar y môr yn gwibio fel pryfed yng ngolau haul y prynhawn hwyr.

The Burren

Am flynyddoedd roeddwn i am ymweld â’r ardal i’r de o Galway sy’n dwyn yr enw Y Burren, a heddiw mae’r amser wedi cyrraedd.  Cromen o garreg galch yw’r Burren, sy’n cynnwys un o’r tirweddau ‘karst’ pwysicaf yn Ewrop.  Erbyn hyn mae ganddo’r statws o fod yn Unesco Global GeoPark.  Daliwn ni’r bws ar hyd yr arfordir i Ballyvaughan.  Pentref bach bendigedig yw hwn ar gyrion gorllewinol y Burren. 

Ar ôl coffi yn y Soda Parlour cychwynnwn ni ar daith gerdded gylchol, y Wood Loop.  Bu’r glaw trwm yn ddiweddar yn gwneud i’r cerrig calch fod yn llithrig dan droed, wrth inni wau ein ffordd trwy’r coed collen tua’r haenau o gerrig gwalch yn uwch i fyny.  Dyn ni’n osgoi ogof Aillwee (rhy fasnachol yr olwg) ac yn cerdded ar hyd lôn dawel.  Mae’r ardal hon yn baradwys i fywyd gwyllt o bob math.  Mae bron pob un o’r gloÿnnod byw yn Iwerddon i’w gweld yma.  Yng Nghymru mae’r gog yn brin, ac eithrio mewn ucheldiroedd, ond ar y Burren mae ei chân ymhob man.  Uwch ein pennau, daw’r haenau di-rif o garreg galch i’r fei, wedi’u gosod ar ben ei gilydd dros gannoedd o filiynau o flynyddoedd.  Yma mae rhywun yn gallu gweld y nodweddion unigryw o dirwedd ‘karst’: clintiau, greiciau, ogofau, drymlinoedd, meini crwydr, dolinau a phafinau calch.  Tirwedd hudol, yn wir.  Gwelwn ni arwyddion i’r Burren Way – llwybr cerdded pum-diwrnod i’w ychwanegu i’r rhestr o lwybrau i’w taclo yn y dyfodol.

Coroni o bell

Diddorol nodi ymateb pobl yn Iwerddon tuag at y teulu brenhinol a choroni Charles III.  Mae’n amrywio o gywreindeb a difaterwch i ryfeddod a dilorni.  Cawn sgwrs â menyw ar y stryd yn Ballyvaughan, sy’n gweithio fel ‘celebrant’: ei barn hi yw bod y coroni’n ymgais amlwg a sinigaidd i dynnu sylw’r cyhoedd oddi ar drafferthion economaidd a chymdeithasol y wlad.  Mewn erthygl yn yr Irish Times dywed Fintan O’Toole fod ysblander y seremoni yn cuddio gwacter amlwg yn y cyfansoddiad Prydeinig: ‘the less substance there is to any political institution, the more it must play up its own mystique’.  Does dim byd hynafol, medd O’Toole, am y ‘charade’ hwn: ‘its inspiration is surely Game of thrones: the citizens of a modern democracy are being invited to take their part as extras in a big-budget faux-medieval cosplay’.

Mae pethau’n wahanol yn Iwerddon.  Yma mae’r bobl yn cael dewis eu Harlywydd, yn hytrach na gorfod derbyn brenin breintiedig.  Rhai blynyddoedd yn ôl gosododd rhywun lun ar Twitter o Arlywydd Iwerddon, Michael D. Higgins, yn aros ei dro mewn rhes o bobl o flaen twll-yn-y-wal, ‘fel ddinesydd arferol’.  Gall Mr Higgins, sy’n hynod boblogaidd, siarad dros y bobl am faterion pwysig, heb falu awyr.  Mewn araith ddiweddar ymosododd ar effeithiau drwg neo-ryddfrydiaeth, a thwf economaidd fel amcan di-gwestiwn. 

Yn Kilkenny

Dychwelyd tua’r de-ddwyrain, gan newid trenau yn Kildare (tref hyfryd), ac aros dros nos yn Kilkenny.  Dyma dref (neu ddinas, yn ôl eich chwaeth) atyniadol dros ben, gyda nifer o siopau llyfrau a siopau coffi, yn arwydd bob tro o le diwylliedig.  O ben y tŵr crwn tu allan i Gadeirlan Sant Canice cawn banorama gwych o’r dref a’r wlad gyfagos.  Wedyn, ymlaen i Gastell Kilkenny, cartref i’r Butleriaid, dugiaid Ormond.  Uchafbwynt yr ymweliad yw’r Oriel Gelf, neuadd fawr, addurnedig, llawn lluniau olew o aelodau’r teulu trwy’r canrifoedd.  Yn 1961 gwerthodd Arthur Butler y castell i’r gymuned leol am £50.

Ddwy ganrif yn gynt bu Eleanor Butler yn rhedeg i ffwrdd o’r Castell yn 1778 i fyw gyda’i phartner Sarah Ponsonby ym Mlas Newydd, Llangollen, yn bell o’i theulu.  Iddyn nhw, roedd Eleanor yn ‘llyfrbryf orddysgedig’, yn ogystal â bod yn lesbiad annerbyniol.

Ein taith olaf, ar y trên nôl i Waterford, ac wedyn ar fws i Rosslare Europort.  Dyn ni’n lwcus i ffindio gwesty: defnyddir hen westai yn y pentref i roi lloches dros dro i ffoaduriaid o Wcráin a llefydd eraill.  Mae llywodraeth a phobl Iwerddon, debyg iawn, yn fwy croesawgar a hael i ffoaduriaid na llywodraeth Prydain.  Yn fwy cyffredinol, anodd osgoi’r argraff bod Iwerddon yn wlad sy’n fwy goddefgar, yn fwy gwareiddiedig ac yn fwy cyfforddus â’i hunan na’r hen ymerodraeth dros y môr.  Yr wythnos hon cyhoeddodd ei llywodraeth fwriad i sefydlu cronfa cyfoeth sofran, er mwyn cadw incwm o drethu cwmnïau mawr a defnyddio’r arian i gwrdd ag anghenion y dyfodol.  Amhosib meddwl am lywodraeth Prydain yn gwneud rhywbeth mor ragweledol.

I Ddoc Penfro

At y fferi yn ôl i Gymru, eistedd dwy fenyw o Decsas, addfwyn a diniwed yr olwg, wrth y ford ddrws nesaf inni.  Maen nhw’n chwarae gêm o gardiau, ac yn esbonio wrth gyd-aelod o’u grŵp teithio mai enw’r gêm yw ‘Spite and Malice’.

Comments (2)

Trackback URL | Comments RSS Feed

  1. Tecwyn Owen says:

    Mwynhad pur. Diolch.
    Sylwais fod gwalch yn lle calch wrth sôn am y Burren (ddwywaith)

Leave a Reply