cymraeg
Pwy oedd Llywelyn ap Gwynn?

Dechrau’r stori hon yw llyfr. Llyfr o’r enw Rambles and walking tours around the Cambrian coast, gan Hugh E. Page. Mae’n perthyn i genre o deithlyfrau oedd yn boblogaidd yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, pan oedd marchnad barod i lyfrau o deithiau cerdded a gychwynnai o orsafoedd trenau. Y cyhoeddwr oedd y […]
Aberystwyth yn 1863

Roedd oes newydd yn ddechrau gwawrio i dref Aberystwyth yn 1863. Ym mis Awst y flwyddyn ganlynol cyrhaeddodd y rheilffordd o’r Amwythig, ac agorwyd yr orsaf drenau. Bron ar unwaith daeth hi’n bosib i bobl deithio i’r dref yn hawdd, yn arbennig i hala eu gwyliau haf yn yr ardal. Yn 1864 dechreuodd Thomas Savin […]
Celf gyfoes, heb gartref yng Nghymru

Arddangosfa eithriadol sy’n llenwi Oriel Gregynog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Ei theitl yw ‘Cyfoes’, a’i hamcan yw dangos rhai i’r gweithiau celf – peintiadau a ffotograffau gan amlaf – y mae’r Llyfrgell wedi’u casglu yn ystod y degawdau diwethaf. Mae gwedd y sioe yn drawiadol. Does dim gormod o weithiau, ac […]
Cymru ar goll yn ‘Union’

Bûm yn gwylio cyfres ddiwethaf David Olusoga at BBC2, Union, a wnaed ar y cyd â’r Brifysgol Agored. Rhaid dweud bod y cymhelliad y tu ôl i’r cynllun pedair rhaglen yn un i’w ganmol: i esbonio sut y daeth y ‘Deyrnas Unedig’ i fod, a sut datblygodd y syniad, a’r realiti, dros y canrifoedd. Y […]
Amddiffyn y rhestr fwced

Rhyw wythnos yn ôl, ar y rhaglen radio A Point of View, clywais i’r llais digamsyniol – a’r acen ddiog, lusg – o’r nofelydd Will Self. Yn ei ddarn ymosododd yn chwyrn ar y bobl rheini sy’n cadw ‘rhestrau bwced’ o’u dyheadau i brofi pethau sylweddol, neu ymweld â lleoedd arwyddocaol, cyn eu bod yn […]
Ar hunangofiannau

Y dydd o’r blaen ces i lyfr ar fenthyg gan gyfaill, sef hunangofiant newydd yn Saesneg gan un o hoelion wyth y byd Cymreig cyhoeddus – cyfrol drwchus, gyda dros bedwar cant o dudalennau, a phrint mân. Mae’r llyfr yn dal i orwedd ar y ford yn y cyntedd; dwi heb ddarllen mwy nag un […]
Yn y Gororau

Nid yw’n bosib i Mike Parker ysgrifennu llyfr sych a difywyd, a dyw ei lyfr diweddaraf ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, All the wide borders, ddim yn eithriad. Mae i’r gyfrol strwythur diddorol. Tair rhan sydd ynddi, sy’n gyfatebol i’r tri phrif afon yn ardaloedd y ffin, Afon Dyfrdwy, Afon Hafren ac Afon […]
Ar ôl Abertawe, beth?

Dan yr haul llachar a’r awyr glas daeth miloedd o bobl, o ardal Abertawe ac o bob rhan o Gymru, ynghyd yn Wind Street ddiwedd y bore ar 20 Mai, dan adain y faner Yes Cymru, i alw am annibyniaeth. Symudodd bandiau, baneri a llu o hetiau coch a melyn ar hyd y strydoedd gwag, […]
Llythyr o Iwerddon

Fel y weriniaeth agosaf i Gymru, Iwerddon yw’r hafan amlwg rhag y panto brenhinol, a dihangfa dros dro o’r wlad lle ‘does dim byd yn gweithio dim mwy’. Nod arall inni oedd cael teithio’n araf ac ysgafn, gan groesi’r môr ar y fferi o Abergwaun heb gar, ac wedyn mynd o le i le ar […]